|

Mae gen i ddiddordeb mawr mewn pethau hardd, fel gweithiau celf, sydd angen eu hadfer.
Proses o adfer yw Hyfforddi hefyd. Dipyn wrth dipyn nes y byddwch yn y diwedd yn teimlo'n brydferth unwaith eto gyda'ch hyder wedi ei adfer ac yn gallu gweld a chlywed yr holl fyd mewn gwell cywair.
Rwyf i'n hyfforddi fel un gyda gwybodaeth a phrofiad a chefais hyfforddiant gyda'r Academi Hyfforddi sydd ar y blaen yn Ewrop.
Nid y fi sy'n creu trawsnewid ond chi, y client. Byth a hefyd y mae'n destun rhyfeddod i mi pa mor abl yw pobl i weddnewid ac i ymegnio.
Rwy'n tynnu'r gorau allan o'r bobl sydd o'm cwmpas yn ogystal ag ohonof fy hun. Gan mai taith yw bywyd yr ydych yn creu eich rheolau eich hun er mwyn byw eich bywyd eich hun.
Mae gen i'r gallu i'ch hysgogi chi.
Mae fy mhersonoliaeth yn rhan o'm hyfforddiant gyda thunelli o frwdfrydedd a chyd-ymdeimlad. Rwy'n un dda am wrando. Gallaf ysgogi a chynnal ym mhob ffordd posibl - trwy ebost, wyneb yn wyneb neu ar y ffôn.
Fe'ch cefnogaf yn llwyr. Pan fyddwch yn cydweithio â mi byddwch yn ymwybodol o'm cefnogaeth lwyr. Chi fydd yn gwneud y gwaith ond fe fyddaf yn eich tywys drwy'r cyfan fel bo'r canlyniad mor fendithiol a phosibl.
Byddwch yn ymwybodol fod yn rhaid mentro - ond mwya'n byd y byddwch yn mentro lleia'n byd o ofn y dirgel fydd yna.
Mae yna lawer o ddylanwadau, credoau a disgwyliadau negyddol o bob cyfeiriad a hynny'n cymylu ein barn. Y pethau hyn sy'n ein rhwystro rhag cael ein bywyd delfrydol - ond rhywbeth i'w fyw yw bywyd ac y mae'n rhy fyr i fod yn boen.
Felly rhaid parhau'n gadarnhaol gan ysgogi'n hunain i fentro fwyfwy a gadael y llecynnau cyfforddus er mwyn byw ein breuddwydion.
Rhywbeth a grëwyd yw Amser. Y mae dweud, "Ni does gennyf amser" yn union fel dweud, "Dydw id dim eisiau . . ."
Lao Tzu
|