Home Cartref About Amdanai I Contact Cysylltiwch
         
  naturallifecoach.co.uk  
 
Natural Life Coach Natural Life Coach Natural Life Coach Natural Life Coach
 
Welsh English
Llythur Misol
 
 
Online Shop Siop
   
Links Cysylltiadau
 
 
 
 
Sut mae hyfforddiant bywyd yn gweithio


Mae'r berthynas hyfforddi yn gweithio pan fo'r cwsmer wedi gwneud penderfyniad i newid ei fywyd ac angen arweiniad a chynhaliaeth i gyrraedd y nod

Yr ydych wedi dod dros y maen tramgwydd mwyaf trwy benderfynu newid eich bywyd a wynebu problemau a phryderon.

Fel hyfforddwraig bywyd byddaf yn eich cymell heb fod yn feirniadol ac yn eich galluogi i ddod i benderfyniadau ynglyn â'ch dyfodol mewn ffordd a fydd yn eich helpu ar daith bywyd o'r lle yr ydych yn awr i ble dymunwch fod yn y dyfodol.

Mae sawl ffordd o gyflawni hyn ac y mae yna amrywiaeth o sgiliau, offer a thechnegau beth bynnag yr amgylchiadau.

Gallaf eich helpu

  • I ddeall beth yw'r broblem - a deall pam ei bod yn broblem
  • I ddadansoddi eich hunan - trwy ofyn cwestiynau grymus.
  • I archwilio rhwystrau go iawn a rhai dychmygol.
  • I ddod o hyd i ddiffygion yn eich dull o feddwl nad ydych yn ymwybodol ohonyn nhw.
  • I adnabod amcanion realistig.
  • I flaenoriaethu yn y tymor byr, y tymor canolig a'r tymor hir.
  • I gredu ym mhotensial pobl.
  • I fyw bywyd llawn ac arwyddocaol.
  • I sylweddoli fod nawr yn adeg dda i ddechrau.

Pam na ddewiswch yr adeg hon fel yr amser i beri newid grymus na ellir ei atal yn eich bywyd

Safon Ymddygiad
Byddaf yn gweithredu o fewn safonau ymddygiad yr Academi Hyfforddi - The Coaching Academy - gan gadw at ei hegwyddorion a'i hathroniaeth.

 

Contact me on 0845 603 4359 or info@naturallifecoach.co.uk