| Beth yw hyfforddiant bywyd? |
|
Proses yw Hyfforddi sy'n arwain at ddysg a datblygiad gan beri i berfformiad wella
Eric Parsole: The Manager AS a Coach and Mentor
Yn ei hanfod mae hyfforddi yn ymwneud â gweithio gydag unigolyn er mwyn sicrhau, gam wrth gam, welliant y gellir ei weld mewn perfformiad a chymhelliad.
Mae Hyfforddi yn canolbwyntio arnoch chwi
- Lle'r ydych yn awr
- Lle'r ydych eisiau bod
- Sut y byddwch yn cyrraedd yno
Mae'r Hyfforddiant rhwng dau - chi a mi - gyda phwyslais ar osod a chyrraedd amcanion datblygiad sy'n berthnasol i chi.
Mae'n golygu diffinio nod a'i datgymalu'n gamau mesuradwy sy'n eich galluogi i ddatblygu yn gyson a gweld y gwelliannau sy'n deillio o bob cam yr ydych yn ei gymryd.
Pa les sydd yn hyn?
- Mwy o hunan ymwybyddiaeth a hunan gred.
- Hunan ysgogiad.
- Hunanhyder.
- Byddwch yn tyfu fel person ac yn datblygu gartref ac yn y gwaith.
- Fe fyddaf i yn credu ynddo chi hyd yn oed pan na fyddwch yn credu ynddoch eich hun.
- Cewch anogaeth, ysgogiad a chynhaliaeth gan eich Hyfforddwraig Bywyd Naturiol.
|
Contact me on 0845 603 4359 or info@naturallifecoach.co.uk |