| Beth mae fy nghwsmeriaid yn ddweud |
|
Tystebau
"Roedd gwaith Mari yn amhrisiadwy. Yn ymgynghorydd gwrthrychol a oedd yn fy ngalluogi i feddwl yn glir wrth osod amcanion ar gyfer y dyfodol i mi fy hun. Llawer o gynhaliaeth ac anogaeth."
Alison, Portsmouth .
"Hoffwn ddiolch ichi am fod yn Hyfforddwraig Bywyd wych yr oedd yn bleser bod gyda hi. Ers gweithio gyda chi mae fy mywyd wedi newid gyda dimensiwns newydd na allwn eu pwyso a'u mesur ar fy mhen fy hun. Rwy'n teimlo'n well fel person ac y mae hynny'n fy ngalluogi i fod yn fwy serchog a llawen tuag at bobl o'm cwmpas. Erbyn hyn rwy'n credu fod cyrhaeddiadau yn ddibendraw a bod fy nyfodol yn un cyffrous. Diolch am bopeth."
Chris, Brighton .
Mae eich Hyfforddiant wedi fy atgyfnerthu a herio fy hunan-gred gyfyng gan beri imi ymestyn y tu draw i'm cyfyngiadau cyfforddus arferol a chyrraedd fy ngwir botensial. Diolch ichi.
Jacqui Morgan
Bu fy sesiynau hyfforddi gyda Mari o help imi ganolbwyntio ar fy amcanion a'm bwriadau. Yr oedd ffordd gyfeillgar a chynhaliol Mari yn help tuag at gyfathrebu'n rhwydd yn ystod sesiynau gan wneud imi deimlo'n ddigon cyfforddus i fod yn agored ynglyn â materion dan sylw.
O ganlyniad yr ydw i yn fwy trefnus ac yn fwy effeithiol gyda fy astudiaethau a'm bywyd yn gyffredinol.
Oherwydd dull hynaws Mari a'i hiwmor yr oedd ein sesiynau yn hwyliog hefyd.
Ni allaf ond ei chymeradwyo'n gynnes fel hyfforddwraig ardderchog.
Yvonne Sidos. Essex.
|
Contact me on 0845 603 4359 or info@naturallifecoach.co.uk |