Home Cartref About Amdanai I Contact Cysylltiwch
         
  naturallifecoach.co.uk  
 
Natural Life Coach Natural Life Coach Natural Life Coach Natural Life Coach
 
Welsh English
Llythur Misol
 
 
Online Shop Siop
   
Links Cysylltiadau
 
 
 
 
Eich hyfforddwraig bywyd naturiol


Mae'r berthynas yn gweithio pan fo'r hyfforddwr yn glir ei feddwl, yn gadarn ac yn cynnal client wrth iddo ymgyrraedd tuag at ei nod derfynol.

Fy mhrofiad

  • Yr wyf wedi bod yn Hyfforddwraig Bywyd am nifer o flynyddoedd gan gymell a chynnal pobl gyda'r rhannau hynny o'u bywyd a esgeuluswyd fwyaf ganddynt.
  • Rwy'n aelod er 2003 o'r Academi Hyfforddi (The Coaching Academy) - y gyfundrefn hyfforddi fwyaf o'i bath yn Ewrop,.
  • Byddaf yn mynychu cynadleddau hyfforddi lleol, cenedlaethol a rhyngwladol.
  • Rwy'n aelod gweithredol o e-gymuned yr Academi Hyfforddi.
  • Rwy'n ymwneud â hyfforddiant parhaol a datblygiad sgiliau gyda hyfforddwyr eraill

Syniadau Craidd Hyfforddwyr Bywyd Naturiol

Y Cwsmer yn Ganolbwynt Proffesiynol Cyfrinachol Ymrwymiad Parch Ystyriol Hoffus Brwd

Y Cwsmer yn Ganolbwynt

Rwy'n barod i wasanaethu fy nghwsmeriaid: hebddo chi fyddwn i ddim mewn busnes. Y cwsmer yw fy mlaenoriaeth gyntaf. Y nod yw diwallu eich anghenion bob amser.

Yn fy ngwaith blaenorol ym maes rheoli lletygarwch byddwn bob amser yn canolbwyntio ar y cwsmeriaid gan wneud yn siwr eu bod bob amser yn fodlon.

Cawn fwynhad o ymwneud â phobl mewn cynadleddau, priodasau a phob math o ddigwyddiadau eraill - a hynny gyda gwên ar fy wyneb; beth bynnag yr amgylchiadau.

Proffesiynol

Credaf mewn trin eraill fel yr hoffwn gael fy nhrin fy hun. Byddwch yn cael eich trin yn gwrtais ac yn brydlon gan wybod y gallwch ddibynnu arnaf.

Cyfrinachol

Bydd unrhyw wybodaeth y byddwch yn ei rhannu â mi yn gwbl gyfrinachol. Ni fyddaf yn trosglwyddo unrhyw wybodaeth, yn uniongyrchol nac yn anuniongyrchol, i unrhyw berson arall mewn unrhyw ffordd.

Ymrwymiad

Byddaf yn ymroi gant y cant i bob cwsmer er mwyn cael y gorau allan ohonynt a'u harwain i lefel arall yn eu bywyd.
Taith i'w mwynhau yw bywyd.

Parch

Mae cyfathrebu'n effeithiol yn dibynnu ar ymddiriedaeth a dealltwriaeth rhwng y naill ochr a'r llall. Mae'r hyfforddwr da yn cynorthwyo clientau i ddod o hyd i'r atebion eu hunain. Byddaf yn onest ac yn agored gyda chi yn y gobaith y byddwch chwithau yn onest ac yn agored a minnau.

Ystyriol

Rwy'n trin pobl yn ystyriol a chyda chydymdeimlad gan sylweddoli fod pob person yn wahanol.

Hoffus a Brwd

Mae gen i bersonoliaeth afieithus a all eich helpu symud ymlaen. Rydw i bob amser yn tynnu'r gorau allan ohonof fy hun ac allan o'm cwsmeriaid.

Rwy'n unigryw ac yn frwd dros helpu eraill wireddu eu breuddwydion. Mae gen i ddigon o frwdfrydedd i gynnal ac i gymell eraill beth bynnag eu gofynion.

Rwy'n gadarnhaol, yn gyfeillgar ac yn un hawdd gwneud â hi.

 

 

Contact me on 0845 603 4359 or info@naturallifecoach.co.uk